Gweddi Manasse 1:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. y mae pob peth yn crynu ac yn dychrynu gerbron dy allu di.

5. Oherwydd ni ellir goddef gorwychder dy ogoniant,nac ymddál dan ddicter dy fygwth ar bechaduriaid;

6. ond difesur a diamgyffred yw'r drugaredd a addewaist.

7. Ti yw'r Arglwydd goruchaf,tosturiol, hirymarhous, a mawr dy drugaredd,yn ymatal rhag cosbi drygioni pobl.

8. Tydi, felly, Arglwydd Dduw y cyfiawn,nid i rai cyfiawn yr ordeiniaist edifeirwch,nid i Abraham, Isaac a Jacob, na phechasant yn dy erbyn;ond ordeiniaist edifeirwch i mi, sy'n bechadur,

Gweddi Manasse 1