Genesis 9:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Pan ddeffrôdd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo,

25. dywedodd,“Melltigedig fyddo Canaan;gwas i weision ei frodyr fydd.”

26. Dywedodd hefyd,“Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem;bydded Canaan yn was iddo.

27. Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem;bydded Canaan yn was iddo.”

28. Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd.

29. Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.

Genesis 9