Genesis 9:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear.

20. Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan,

21. ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell.

22. Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan;

23. ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad.

24. Pan ddeffrôdd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo,

Genesis 9