Genesis 9:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, “Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear.

2. Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod.

3. Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.

4. Ond peidiwch â bwyta cig â'i einioes, sef ei waed, ynddo.

Genesis 9