Genesis 7:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Cryfhaodd y dyfroedd gymaint ar y ddaear nes gorchuddio'r holl fynyddoedd uchel ym mhob man dan y nefoedd;

20. cododd y dyfroedd dros y mynyddoedd a'u gorchuddio dan ddyfnder o bymtheg cufydd.

21. Trengodd pob cnawd oedd yn symud ar y ddaear, yn adar, anifeiliaid, bwystfilod, popeth oedd yn heigio ar y ddaear, a phobl hefyd;

22. bu farw popeth ar y tir sych oedd ag anadl einioes yn ei ffroenau.

23. Dilewyd popeth byw oedd ar wyneb y tir, yn ddyn ac anifail, yn ymlusgiaid ac adar yr awyr; fe'u dilewyd o'r ddaear. Noa yn unig a adawyd, a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch.

Genesis 7