Genesis 6:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ond cafodd Noa ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

9. Dyma genedlaethau Noa. Gŵr cyfiawn oedd Noa, perffaith yn ei oes; a rhodiodd Noa gyda Duw.

10. Yr oedd Noa'n dad i dri o feibion: Sem, Cham a Jaffeth.

11. Aeth y ddaear yn llygredig gerbron Duw, ac yn llawn trais.

12. A gwelodd Duw fod y ddaear yn llygredig, am fod bywyd pob peth byw ar y ddaear wedi ei lygru.

13. Yna dywedodd Duw wrth Noa, “Yr wyf wedi penderfynu difodi pob cnawd, oherwydd llanwyd y ddaear â thrais ganddynt; yr wyf am eu difetha o'r ddaear.

14. Gwna i ti arch o bren goffer; gwna gelloedd ynddi a rho drwch o byg arni, oddi mewn ac oddi allan.

Genesis 6