Genesis 6:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dechreuodd y bobl amlhau ar wyneb y ddaear, a ganwyd merched iddynt;

2. yna gwelodd meibion Duw fod y merched yn hardd, a chymerasant wragedd o'u plith yn ôl eu dewis.

3. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Ni fydd fy ysbryd yn aros am byth mewn meidrolyn, oherwydd cnawd yw; ond cant ac ugain o flynyddoedd fydd hyd ei oes.”

4. Y Neffilim oedd ar y ddaear yr amser hwnnw, ac wedi hynny hefyd, pan oedd meibion Duw yn cyfathrachu â'r merched, a hwythau'n geni plant iddynt. Dyma'r cedyrn gynt, gwŷr enwog.

5. Pan welodd yr ARGLWYDD fod drygioni'r bobl yn fawr ar y ddaear, a bod holl ogwydd eu bwriadau bob amser yn ddrwg,

6. bu edifar gan yr ARGLWYDD iddo wneud dyn ar y ddaear, a gofidiodd yn fawr.

7. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dileaf oddi ar wyneb y ddaear y bobl a greais, ie, dyn ac anifail, ymlusgiaid ac adar yr awyr, oherwydd y mae'n edifar gennyf imi eu gwneud.”

8. Ond cafodd Noa ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

9. Dyma genedlaethau Noa. Gŵr cyfiawn oedd Noa, perffaith yn ei oes; a rhodiodd Noa gyda Duw.

10. Yr oedd Noa'n dad i dri o feibion: Sem, Cham a Jaffeth.

Genesis 6