Genesis 50:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr, “Yr wyf yn marw; ond y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi a'ch dwyn i fyny o'r wlad hon i'r wlad a addawodd trwy lw i Abraham, Isaac a Jacob.”

25. A gwnaeth Joseff i feibion Israel dyngu llw. Dywedodd, “Y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi; ewch chwithau â'm hesgyrn i fyny oddi yma.”

26. Bu Joseff farw yn gant a deg oed, ac wedi iddynt ei eneinio, rhoesant ef mewn arch yn yr Aifft.

Genesis 50