Genesis 50:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, “Efallai y bydd Joseff yn ein casáu ni, ac yn talu'n ôl yr holl ddrwg a wnaethom iddo.”

16. A daethant at Joseff, a dweud, “Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw,

17. ‘Dywedwch wrth Joseff, “Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti.” ’ Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad.” Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef.

18. Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Yr ydym yn weision i ti.”

19. Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw?

20. Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl.

Genesis 50