Genesis 50:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. A gwnaeth ei feibion i Jacob fel yr oedd wedi gorchymyn iddynt;

13. oherwydd daeth ei feibion ag ef i wlad Canaan a'i gladdu ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yn yr ogof a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.

14. Ac wedi iddo gladdu ei dad, dychwelodd Joseff i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb oedd wedi mynd i fyny gydag ef i gladdu ei dad.

Genesis 50