Genesis 5:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

5. Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.

6. Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos.

7. Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

8. Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.

9. Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.

10. Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

Genesis 5