Genesis 5:26-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

27. Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.

28. Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab;

29. a galwodd ef yn Noa, a dweud, “Fe ddaw hwn â chysur i ni o waith a llafur ein dwylo yn y pridd a felltithiodd yr ARGLWYDD.”

30. Ac wedi geni Noa, bu Lamech fyw am bum cant naw deg a phump o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

31. Felly yr oedd oes gyfan Lamech yn saith gant saith deg a saith o flynyddoedd; yna bu farw.

32. Bu Noa fyw am bum can mlynedd cyn geni iddo Sem, Cham a Jaffeth.

Genesis 5