Genesis 49:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. “Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid,ond bydd ef yn eu hymlid hwy.

20. “Aser, bras fydd ei fwyd,ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.

21. “Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog,yn lledu brigau teg.

22. “Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon,cangen ffrwythlon wrth ffynnon,a'i cheinciau'n dringo dros y mur.

23. Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato,yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;

24. ond parhaodd ei fwa yn gadarn,cryfhawyd ei freichiautrwy ddwylo Un Cadarn Jacob,trwy enw'r Bugail, Craig Israel;

25. trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu,trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithioâ bendithion y nefoedd uchod,bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod,bendithion y bronnau a'r groth.

Genesis 49