Genesis 49:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. “Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!

19. “Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid,ond bydd ef yn eu hymlid hwy.

20. “Aser, bras fydd ei fwyd,ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.

21. “Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog,yn lledu brigau teg.

22. “Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon,cangen ffrwythlon wrth ffynnon,a'i cheinciau'n dringo dros y mur.

23. Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato,yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;

Genesis 49