Genesis 49:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. “Y mae Issachar yn asyn cryf,yn gorweddian rhwng y corlannau;

15. pan fydd yn gweld lle da i orffwyso,ac mor hyfryd yw'r tir,fe blyga'i ysgwydd i'r baich,a dod yn gaethwas dan orfod.

16. “Bydd Dan yn barnu ei boblfel un o lwythau Israel.

17. Bydd Dan yn sarff ar y ffordd,ac yn neidr ar y llwybr,yn brathu sodlau'r marchnes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn.

18. “Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!

19. “Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid,ond bydd ef yn eu hymlid hwy.

Genesis 49