Genesis 49:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna galwodd Jacob ar ei feibion, ac meddai, “Dewch ynghyd, imi ddweud wrthych beth fydd eich hynt yn y dyddiau sydd i ddod.

2. “Dewch yma a gwrandewch, feibion Jacob,gwrandewch ar Israel eich tad.

3. “Reuben, ti yw fy nghyntafanedig,fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth,yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu,

4. yn aflonydd fel dŵr; ni ragori mwyach,oherwydd dringaist i wely dy dad,dringaist i'm gorweddfa a'i halogi.

5. “Y mae Simeon a Lefi yn frodyr;arfau creulon yw eu ceibiau.

6. Na fydded imi fynd i'w cyngor,na pherthyn i'w cwmni;oherwydd yn eu llid lladdasant wŷr,a thorri llinynnau gar yr ychen fel y mynnent.

Genesis 49