Genesis 48:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Estynnodd Israel ei law dde a'i gosod ar ben Effraim, yr ieuengaf, a'i law chwith ar ben Manasse, trwy groesi ei ddwylo, er mai Manasse oedd yr hynaf.

15. Yna bendithiodd Joseff a dweud:“Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen,y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,

16. yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg,bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn.Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac,a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear.”

Genesis 48