Genesis 47:22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Yr unig dir na phrynodd mohono oedd tir yr offeiriaid. Yr oedd gan yr offeiriaid gyfran wedi ei phennu gan Pharo, ac ar y gyfran a roddwyd iddynt gan Pharo yr oeddent yn byw; felly ni werthasant eu tir.