Genesis 46:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Felly aeth Israel ar ei daith gyda'i holl eiddo, a dod i Beerseba lle yr offrymodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.

2. Llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaeth nos, a dweud, “Jacob, Jacob.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”

3. Yna dywedodd, “Myfi yw Duw, Duw dy dad. Paid ag ofni mynd i lawr i'r Aifft, oherwydd fe'th wnaf di'n genedl fawr yno.

4. Af i lawr i'r Aifft gyda thi, a dof â thi yn ôl drachefn. A chaiff Joseff gau dy lygaid.”

Genesis 46