Genesis 45:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd.

23. Dyma a anfonodd i'w dad: deg asyn yn llwythog o bethau gorau'r Aifft, a deg o asennod yn cario ŷd a bara, a bwyd i'w dad at y daith.

24. Yna anfonodd ei frodyr ymaith, ac wrth iddynt gychwyn dywedodd, “Peidiwch â chweryla ar y ffordd.”

25. Felly aethant o'r Aifft a dod i wlad Canaan at eu tad Jacob.

Genesis 45