Genesis 45:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Wylodd yn uchel, nes bod yr Eifftiaid a theulu Pharo yn ei glywed,

3. a dywedodd wrth ei frodyr, “Joseff wyf fi. A yw fy nhad yn dal yn fyw?” Ond ni allai ei frodyr ei ateb, gan eu bod wedi eu cynhyrfu wrth ei weld.

4. Yna meddai Joseff wrth ei frodyr, “Dewch yn nes ataf.” Wedi iddynt nesáu, dywedodd, “Myfi yw eich brawd Joseff, a werthwyd gennych i'r Aifft.

5. Yn awr, peidiwch â chyffroi na bod yn ddig wrthych eich hunain, am i chwi fy ngwerthu i'r lle hwn, oherwydd anfonodd Duw fi o'ch blaen er mwyn diogelu bywyd.

Genesis 45