Genesis 45:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Pan ddaeth y newydd i dŷ Pharo fod brodyr Joseff wedi cyrraedd, llawenhaodd Pharo a'i weision.

17. Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr, ‘Gwnewch fel hyn: llwythwch eich anifeiliaid a theithio'n ôl i wlad Canaan.

18. Yna dewch â'ch tad a'ch teuluoedd ataf, a rhof ichwi orau gwlad yr Aifft, a chewch fyw ar fraster y wlad.’

19. Yna gorchymyn iddynt, ‘Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch â'ch tad yma.

20. Peidiwch â phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.’ ”

Genesis 45