Genesis 45:15-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Cusanodd ei frodyr i gyd, gan wylo. Wedyn cafodd ei frodyr sgwrs ag ef.

16. Pan ddaeth y newydd i dŷ Pharo fod brodyr Joseff wedi cyrraedd, llawenhaodd Pharo a'i weision.

17. Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr, ‘Gwnewch fel hyn: llwythwch eich anifeiliaid a theithio'n ôl i wlad Canaan.

18. Yna dewch â'ch tad a'ch teuluoedd ataf, a rhof ichwi orau gwlad yr Aifft, a chewch fyw ar fraster y wlad.’

19. Yna gorchymyn iddynt, ‘Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch â'ch tad yma.

20. Peidiwch â phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.’ ”

21. Gwnaeth meibion Israel felly; rhoddodd Joseff wageni iddynt, ar orchymyn Pharo, a bwyd at y daith.

22. Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd.

23. Dyma a anfonodd i'w dad: deg asyn yn llwythog o bethau gorau'r Aifft, a deg o asennod yn cario ŷd a bara, a bwyd i'w dad at y daith.

24. Yna anfonodd ei frodyr ymaith, ac wrth iddynt gychwyn dywedodd, “Peidiwch â chweryla ar y ffordd.”

25. Felly aethant o'r Aifft a dod i wlad Canaan at eu tad Jacob.

26. Dywedasant wrtho, “Y mae Joseff yn dal yn fyw, ac ef yw llywodraethwr holl wlad yr Aifft.” Aeth yntau yn wan drwyddo, oherwydd nid oedd yn eu credu.

Genesis 45