Genesis 44:3-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Pan dorrodd y wawr, anfonwyd y dynion ymaith gyda'u hasynnod.

4. Wedi iddynt fynd ychydig bellter o'r ddinas dywedodd Joseff wrth swyddog ei dŷ, “I ffwrdd â thi ar ôl y dynion, a phan oddiweddi hwy dywed wrthynt, ‘Pam yr ydych wedi talu drwg am dda? Pam yr ydych wedi lladrata fy nghwpan arian?

5. O hwn y byddai f'arglwydd yn yfed ac yn dewino. Yr ydych wedi gwneud peth drwg.’ ”

6. Pan oddiweddodd hwy dywedodd felly wrthynt.

7. Atebasant hwythau, “Pam y mae ein harglwydd yn dweud peth fel hyn? Ni fyddai dy weision byth yn gwneud y fath beth.

8. Cofia ein bod wedi dod â'r arian a gawsom yng ngenau ein sachau yn ôl atat o wlad Canaan. Pam felly y byddem yn lladrata arian neu aur o dŷ dy arglwydd?

9. Os ceir y cwpan gan un o'th weision, bydded hwnnw farw; a byddwn ninnau'n gaethion i'n harglwydd.”

10. “O'r gorau,” meddai yntau, “bydded fel y dywedwch chwi. Bydd yr un y ceir y cwpan ganddo yn gaethwas i mi, ond bydd y gweddill ohonoch yn rhydd.”

11. Yna tynnodd pob un ei sach i lawr ar unwaith, a'i agor.

12. Chwiliodd yntau, gan ddechrau gyda'r hynaf a gorffen gyda'r ieuengaf, a chafwyd y cwpan yn sach Benjamin.

13. Rhwygasant eu dillad, a llwythodd pob un ei asyn a dychwelyd i'r ddinas.

14. Pan ddaeth Jwda a'i frodyr i'r tŷ, yr oedd Joseff yno o hyd, a syrthiasant i lawr o'i flaen.

Genesis 44