Genesis 44:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. A phan ddywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni’,

26. atebasom, ‘Ni allwn fynd. Fe awn os daw ein brawd ieuengaf gyda ni, ond ni chawn weld wyneb y dyn os na fydd ef gyda ni.’

27. A dywedodd dy was ein tad wrthym, ‘Gwyddoch i'm gwraig esgor ar ddau fab;

28. aeth un ymaith a dywedais, “Rhaid ei fod wedi ei larpio”, ac ni welais ef wedyn.

29. Os cymerwch hwn hefyd ymaith a bod niwed yn digwydd iddo, yna fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.’

30. Ac yn awr os dof at dy was fy nhad heb y bachgen,

Genesis 44