17. Gwnaeth y swyddog fel y gorchmynnodd Joseff iddo, a daeth â'r dynion i dŷ Joseff.
18. Ond yr oedd ar y dynion ofn pan gymerwyd hwy i dŷ Joseff, ac meddent, “Y maent wedi dod â ni i mewn yma oherwydd yr arian a roddwyd yn ôl yn ein sachau y tro cyntaf. Byddant yn rhuthro ac yn ymosod arnom, a'n gwneud yn gaethion, a chipio ein hasynnod.”
19. Aethant at swyddog tŷ Joseff a siarad ag ef wrth ddrws y tŷ,
20. a dweud, “Ein harglwydd, daethom i lawr o'r blaen i brynu bwyd;
21. wrth inni agor ein sachau yn y llety yr oedd arian pob un yn llawn yng ngenau ei sach. Yr ydym wedi dod â hwy'n ôl gyda ni,
22. ac y mae gennym arian eraill hefyd i brynu bwyd. Ni wyddom pwy a osododd ein harian yn ein sachau.”
23. Atebodd yntau, “Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian.” Yna daeth â Simeon allan atynt.
24. Wedi i'r swyddog fynd â'r dynion i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddynt i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i'w hasynnod.
25. Gwnaethant eu hanrheg yn barod erbyn i Joseff ddod ganol dydd, am iddynt glywed mai yno y byddent yn cael bwyd.
26. Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, dygasant ato yr anrheg oedd ganddynt, ac ymgrymu i'r llawr o'i flaen.
27. Holodd yntau hwy am eu hiechyd, a gofyn, “A yw eich tad yn iawn, yr hen ŵr y buoch yn sôn amdano? A yw'n dal yn fyw?”
28. Atebasant, “Y mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach.” A phlygasant eu pennau ac ymgrymu.
29. Cododd yntau ei olwg a gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam ef ei hun, a gofynnodd, “Ai dyma eich brawd ieuengaf, y buoch yn sôn amdano?” A dywedodd wrtho, “Bydded Duw yn rasol wrthyt, fy mab.”
30. Yna brysiodd Joseff a chwilio am le i wylo, oherwydd cyffrowyd ei deimladau o achos ei frawd. Aeth i'w ystafell ac wylo yno.