Genesis 43:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Dywedodd eu tad Israel wrthynt, “Os oes rhaid, gwnewch hyn: cymerwch rai o ffrwythau gorau'r wlad yn eich paciau, a dygwch yn anrheg i'r dyn ychydig o falm ac ychydig o fêl, glud pêr, myrr, cnau ac almonau.

12. Cymerwch ddwbl yr arian, a dychwelwch yr arian a roddwyd yng ngenau eich sachau. Efallai mai camgymeriad oedd hynny.

13. Cymerwch hefyd eich brawd, ac ewch eto at y dyn;

14. a rhodded Duw Hollalluog drugaredd i chwi gerbron y dyn, er mwyn iddo ollwng yn rhydd eich brawd arall a Benjamin. Os gwneir fi'n ddi-blant, derbyniaf hynny.”

15. Felly cymerodd y dynion yr anrheg a dwbl yr arian, a Benjamin gyda hwy, ac aethant ar eu taith i lawr i'r Aifft, a sefyll gerbron Joseff.

16. Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda hwy, dywedodd wrth swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i'r tŷ, a lladd anifail a gwna wledd, oherwydd bydd y dynion yn bwyta gyda mi ganol dydd.”

17. Gwnaeth y swyddog fel y gorchmynnodd Joseff iddo, a daeth â'r dynion i dŷ Joseff.

18. Ond yr oedd ar y dynion ofn pan gymerwyd hwy i dŷ Joseff, ac meddent, “Y maent wedi dod â ni i mewn yma oherwydd yr arian a roddwyd yn ôl yn ein sachau y tro cyntaf. Byddant yn rhuthro ac yn ymosod arnom, a'n gwneud yn gaethion, a chipio ein hasynnod.”

19. Aethant at swyddog tŷ Joseff a siarad ag ef wrth ddrws y tŷ,

20. a dweud, “Ein harglwydd, daethom i lawr o'r blaen i brynu bwyd;

21. wrth inni agor ein sachau yn y llety yr oedd arian pob un yn llawn yng ngenau ei sach. Yr ydym wedi dod â hwy'n ôl gyda ni,

22. ac y mae gennym arian eraill hefyd i brynu bwyd. Ni wyddom pwy a osododd ein harian yn ein sachau.”

Genesis 43