Genesis 43:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Trymhaodd y newyn yn y wlad.

2. Ac wedi iddynt fwyta'r ŷd a ddygwyd ganddynt o'r Aifft, dywedodd eu tad wrthynt, “Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni.”

3. Ond atebodd Jwda, “Rhybuddiodd y dyn ni'n ddifrifol gan ddweud, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’

4. Os anfoni ein brawd gyda ni, fe awn i brynu bwyd i ti;

5. ond os nad anfoni ef, nid awn ni, oherwydd dywedodd y dyn wrthym, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’ ”

6. Dywedodd Israel, “Pam y gwnaethoch ddrwg i mi trwy ddweud wrth y dyn fod gennych frawd arall?”

Genesis 43