Genesis 43:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Trymhaodd y newyn yn y wlad.

2. Ac wedi iddynt fwyta'r ŷd a ddygwyd ganddynt o'r Aifft, dywedodd eu tad wrthynt, “Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni.”

3. Ond atebodd Jwda, “Rhybuddiodd y dyn ni'n ddifrifol gan ddweud, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’

4. Os anfoni ein brawd gyda ni, fe awn i brynu bwyd i ti;

5. ond os nad anfoni ef, nid awn ni, oherwydd dywedodd y dyn wrthym, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’ ”

6. Dywedodd Israel, “Pam y gwnaethoch ddrwg i mi trwy ddweud wrth y dyn fod gennych frawd arall?”

7. Atebasant hwythau, “Holodd y dyn ni'n fanwl amdanom ein hunain a'n teulu, a gofyn, ‘A yw eich tad eto'n fyw? A oes gennych frawd arall?’ Wrth inni ei ateb, a allem ni ddirnad y dywedai ef, ‘Dewch â'ch brawd yma’?”

8. Dywedodd Jwda wrth ei dad Israel, “Anfon y bachgen gyda mi, inni gael codi a mynd, er mwyn inni fyw ac nid marw, nyni a thithau a'n plant hefyd.

9. Mi af fi yn feichiau drosto; mi fyddaf fi'n gyfrifol amdano. Os na ddof ag ef yn ôl atat a'i osod o'th flaen, yna byddaf yn euog yn dy olwg am byth.

10. Pe baem heb oedi, byddem wedi dychwelyd ddwywaith erbyn hyn.”

11. Dywedodd eu tad Israel wrthynt, “Os oes rhaid, gwnewch hyn: cymerwch rai o ffrwythau gorau'r wlad yn eich paciau, a dygwch yn anrheg i'r dyn ychydig o falm ac ychydig o fêl, glud pêr, myrr, cnau ac almonau.

12. Cymerwch ddwbl yr arian, a dychwelwch yr arian a roddwyd yng ngenau eich sachau. Efallai mai camgymeriad oedd hynny.

Genesis 43