Genesis 42:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yna dywedasant wrth ei gilydd, “Yn wir, yr ydym yn haeddu cosb o achos ein brawd, am inni weld ei ofid ef pan oedd yn ymbil arnom, a gwrthod gwrando; dyna pam y daeth y gofid hwn arnom.”

22. Dywedodd Reuben, “Oni ddywedais wrthych, ‘Peidiwch â gwneud cam â'r bachgen’? Ond ni wrandawsoch, ac yn awr rhaid ateb am ei waed.”

23. Ni wyddent fod Joseff yn eu deall, am fod cyfieithydd rhyngddynt.

24. Troes yntau oddi wrthynt i wylo. Yna daeth yn ôl a siarad â hwy, a chymerodd Simeon o'u mysg a'i rwymo o flaen eu llygaid.

Genesis 42