Genesis 42:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Clywais fod ŷd i'w gael yn yr Aifft; ewch i lawr yno a phrynwch i ni, er mwyn inni gael byw ac nid marw.”

3. Felly aeth deg o frodyr Joseff i brynu ŷd yn yr Aifft;

4. ond nid anfonodd Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr, rhag ofn i niwed ddigwydd iddo.

5. Daeth meibion Israel ymhlith eraill i brynu ŷd, am fod newyn trwy wlad Canaan.

Genesis 42