Genesis 42:2-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Clywais fod ŷd i'w gael yn yr Aifft; ewch i lawr yno a phrynwch i ni, er mwyn inni gael byw ac nid marw.”

3. Felly aeth deg o frodyr Joseff i brynu ŷd yn yr Aifft;

4. ond nid anfonodd Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr, rhag ofn i niwed ddigwydd iddo.

5. Daeth meibion Israel ymhlith eraill i brynu ŷd, am fod newyn trwy wlad Canaan.

6. Joseff oedd yr arolygwr dros y wlad, ac ef oedd yn gwerthu ŷd i bawb. A daeth brodyr Joseff ac ymgrymu iddo i'r llawr.

7. Pan welodd Joseff ei frodyr, adnabu hwy, ond ymddygodd fel dieithryn a siarad yn hallt wrthynt. Gofynnodd iddynt, “O ble y daethoch?” Ac atebasant, “O wlad Canaan i brynu bwyd.”

8. Yr oedd Joseff wedi adnabod ei frodyr, ond nid oeddent hwy'n ei adnabod ef.

9. Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, “Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”

10. Dywedasant hwythau wrtho, “Na, arglwydd, y mae dy weision wedi dod i brynu bwyd.

11. Meibion un gŵr ydym ni i gyd, a dynion gonest; nid ysbiwyr yw dy weision.”

12. Meddai yntau wrthynt, “Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”

13. Atebasant, “Deuddeg brawd oedd dy weision, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan; y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad, ond nid yw'r llall yn fyw.”

Genesis 42