Genesis 42:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Y gwir amdani yw mai ysbiwyr ydych.

15. Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired â bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma.

16. Anfonwch un o'ch plith i gyrchu eich brawd, tra byddwch chwi yng ngharchar; felly y profir eich geiriau, i wybod a ydynt yn wir. Os nad ydynt, cyn wired â bod Pharo'n fyw, ysbiwyr ydych.”

17. A rhoddodd hwy i gyd yng ngharchar am dridiau.

18. Ar y trydydd diwrnod dywedodd Joseff wrthynt, “Fel hyn y gwnewch er mwyn ichwi gael byw, oherwydd yr wyf yn ofni Duw:

Genesis 42