Genesis 42:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan ddeallodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd wrth ei feibion, “Pam yr ydych yn edrych ar eich gilydd?

2. Clywais fod ŷd i'w gael yn yr Aifft; ewch i lawr yno a phrynwch i ni, er mwyn inni gael byw ac nid marw.”

3. Felly aeth deg o frodyr Joseff i brynu ŷd yn yr Aifft;

4. ond nid anfonodd Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr, rhag ofn i niwed ddigwydd iddo.

5. Daeth meibion Israel ymhlith eraill i brynu ŷd, am fod newyn trwy wlad Canaan.

Genesis 42