Genesis 41:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. yna saith dywysen denau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl.

7. Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen fras a llawn. Yna deffrôdd Pharo a deall mai breuddwyd ydoedd.

8. Pan ddaeth y bore, yr oedd wedi cynhyrfu ac anfonodd am holl ddewiniaid a doethion yr Aifft; dywedodd Pharo ei freuddwyd wrthynt, ond ni allai neb ei dehongli iddo.

9. Yna dywedodd y pen-trulliad wrth Pharo, “Rwy'n cofio heddiw imi fod ar fai.

10. Pan ffromodd Pharo wrth ei weision a'm rhoi i a'r pen-pobydd yn y ddalfa yn nhŷ pennaeth y gwarchodwyr,

Genesis 41