Genesis 41:46-55 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Deng mlwydd ar hugain oedd oed Joseff pan safodd gerbron Pharo brenin yr Aifft. Aeth allan o ŵydd Pharo, a thramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.

47. Yn ystod y saith mlynedd o lawnder cnydiodd y ddaear yn doreithiog,

48. a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch.

49. Felly pentyrrodd Joseff ŷd fel tywod y môr, nes peidio â chadw cyfrif, am na ellid ei fesur.

50. Cyn dyfod blwyddyn y newyn, ganwyd i Joseff ddau fab o Asnath, merch Potiffera offeiriad On.

51. Enwodd Joseff ei gyntafanedig Manasse—“Am fod Duw wedi peri imi anghofio fy holl gyni a holl dylwyth fy nhad.”

52. Enwodd yr ail Effraim—“Am fod Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yng ngwlad fy ngorthrymder.”

53. Darfu'r saith mlynedd o lawnder yng ngwlad yr Aifft;

54. a dechreuodd y saith mlynedd o newyn, fel yr oedd Joseff wedi dweud. Bu newyn yn yr holl wledydd, ond yr oedd bwyd yn holl wlad yr Aifft.

55. A phan ddaeth newyn ar holl wlad yr Aifft, galwodd y bobl ar Pharo am fwyd. Dywedodd Pharo wrth yr holl Eifftiaid, “Ewch at Joseff, a gwnewch yr hyn a ddywed ef wrthych.”

Genesis 41