Genesis 41:45-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. Enwodd Pharo ef Saffnath-panea, a rhoddodd yn wraig iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On. Yna aeth Joseff allan yn bennaeth dros wlad yr Aifft.

46. Deng mlwydd ar hugain oedd oed Joseff pan safodd gerbron Pharo brenin yr Aifft. Aeth allan o ŵydd Pharo, a thramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.

47. Yn ystod y saith mlynedd o lawnder cnydiodd y ddaear yn doreithiog,

48. a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch.

Genesis 41