Genesis 41:31-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. ac ni fydd ôl y llawnder yn y wlad o achos y newyn hwnnw fydd yn ei ddilyn, gan mor drwm fydd.

32. Dyblwyd breuddwyd Pharo am fod y peth mor sicr gan Dduw, a bod Duw ar fin ei gyflawni.

33. Yn awr, dylai Pharo edrych am ŵr deallus a doeth i'w osod ar wlad yr Aifft.

34. Dyma a ddylai Pharo ei wneud: gosod arolygwyr dros y wlad, i gymryd y bumed ran o gnwd gwlad yr Aifft dros y saith mlynedd o lawnder.

35. Dylent gasglu holl fwyd y blynyddoedd da sydd ar ddod, a thrwy awdurdod Pharo, dylent gasglu ŷd yn ymborth i'w gadw yn y dinasoedd,

36. fel y bydd y bwyd ynghadw i'r wlad dros y saith mlynedd o newyn sydd i fod yng ngwlad yr Aifft, rhag i'r wlad gael ei difetha gan y newyn.”

37. Bu'r cyngor yn dderbyniol gan Pharo a'i holl weision.

38. A dywedodd Pharo wrth ei weision, “A fedrwn ni gael gŵr arall fel hwn ag ysbryd Duw ynddo?”

39. Felly dywedodd Pharo wrth Joseff, “Am i Dduw roi gwybod hyn oll i ti, nid oes neb mor ddeallus a doeth â thi;

40. ti fydd dros fy nhŷ, a bydd fy holl bobl yn ufudd i ti; yr orsedd yn unig a'm gwna i yn fwy na thi.”

Genesis 41