Genesis 41:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil,

18. a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;

19. ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu hôl; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft.

20. Bwytaodd y gwartheg tenau a nychlyd y saith o wartheg tewion cyntaf,

Genesis 41