Genesis 41:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ymhen dwy flynedd union breuddwydiodd Pharo ei fod yn sefyll ar lan y Neil.

2. A dyma saith o wartheg porthiannus a thew yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;

3. ac yna saith o wartheg eraill, nychlyd a thenau, yn esgyn ar eu hôl ac yn sefyll ar lan yr afon yn ymyl y gwartheg eraill.

4. Bwytaodd y gwartheg nychlyd a thenau y saith buwch borthiannus a thew. Yna deffrôdd Pharo.

Genesis 41