Genesis 40:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben—oddi arnat!—ac yn dy grogi ar bren; a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd.”

20. Ar y trydydd dydd yr oedd pen-blwydd Pharo, a gwnaeth wledd i'w holl weision, a dod â'r pen-trulliad a'r pen-pobydd i fyny yng ngŵydd ei weision.

21. Adferodd y pen-trulliad i'w swydd, a rhoddodd yntau'r cwpan yn llaw Pharo;

22. ond crogodd y pen-pobydd, fel yr oedd Joseff wedi dehongli iddynt.

23. Eto ni chofiodd y pen-trulliad am Joseff, ond anghofio'n llwyr amdano.

Genesis 40