8. Yna dywedodd Jwda wrth Onan, “Dos at wraig dy frawd, ac fel brawd ei gŵr cod deulu i'th frawd.”
9. Ond gwyddai Onan nad ei eiddo ef fyddai'r teulu; ac felly, pan âi at wraig ei frawd, collai ei had ar lawr, rhag rhoi plant i'w frawd.
10. Yr oedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a pharodd iddo yntau farw.
11. Yna dywedodd Jwda wrth ei ferch-yng-nghyfraith Tamar, “Aros yn weddw yn nhŷ dy dad nes i'm mab Sela dyfu”; oherwydd yr oedd arno ofn iddo yntau hefyd farw fel ei frodyr. Felly aeth Tamar i fyw yn nhŷ ei thad.
12. Ymhen amser, bu farw gwraig Jwda, merch Sua; ac wedi ei dymor galar aeth Jwda a'i gyfaill Hira yr Adulamiad i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid.
13. Pan fynegwyd i Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith wedi mynd i Timnath i gneifio,
14. tynnodd wisg ei gweddwdod oddi amdani, a gwisgo gorchudd a'i lapio amdani. Yna aeth i eistedd wrth borth Enaim ar y ffordd i Timnath; oherwydd yr oedd yn gweld bod Sela wedi dod i oed ac nad oedd hi wedi ei rhoi'n wraig iddo.
15. Gwelodd Jwda hi a thybiodd mai putain ydoedd, gan ei bod wedi cuddio'i hwyneb.
16. Trodd ati ar y ffordd a dweud, “Tyrd, gad i mi gael cyfathrach â thi.” Ond ni wyddai mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Atebodd hithau, “Beth a roi di imi, os cei gyfathrach â mi?”