Genesis 38:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. beichiogodd hithau ac esgor ar fab, ac enwodd yntau ef yn Er.

4. Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, ac enwodd ef Onan.

5. Esgorodd eto ar fab, ac enwodd ef Sela; yn Chesib yr oedd pan esgorodd arno.

6. Cymerodd Jwda wraig o'r enw Tamar i Er ei fab hynaf.

7. Ond dyn drygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd Er, mab hynaf Jwda; a pharodd yr ARGLWYDD iddo farw.

Genesis 38