Genesis 37:21-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, “Peidiwn â'i ladd.”

22. Dywedodd Reuben wrthynt, “Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad.

23. A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo,

24. a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo.

25. Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a'u camelod yn dwyn glud pêr, balm a myrr, i'w cludo i lawr i'r Aifft.

26. A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, “Faint gwell fyddwn o ladd ein brawd a chelu ei waed?

27. Dewch, gadewch inni ei werthu i'r Ismaeliaid; peidiwn â gwneud niwed iddo, oherwydd ein brawd ni a'n cnawd ydyw.” Cytunodd ei frodyr.

28. Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau â Joseff i'r Aifft.

29. Pan aeth Reuben yn ôl at y pydew a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad

30. a mynd at ei frodyr a dweud, “Nid yw'r bachgen yno; a minnau, i ble'r af?”

Genesis 37