Genesis 36:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma genedlaethau Esau, hynny yw Edom.

2. Priododd Esau wragedd o blith merched Canaan, sef Ada merch Elon yr Hethiad, Oholibama merch Ana fab Sibeon yr Hefiad,

3. a Basemath merch Ismael a chwaer Nebaioth.

4. Ac i Esau esgorodd Ada ar Eliffas; esgorodd Basemath ar Reuel;

5. ac esgorodd Oholibama ar Jeus, Jalam a Cora. Dyma feibion Esau a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.

6. Cymerodd Esau ei wragedd, ei feibion a'i ferched, a phob aelod o'i deulu, ei wartheg a'i holl anifeiliaid, a'r holl feddiant a gafodd yng ngwlad Canaan, ac aeth draw i wlad Seir oddi wrth ei frawd Jacob.

7. Yr oedd eu cyfoeth mor fawr fel na allent gyd-fyw, ac ni allai'r wlad lle'r oeddent yn byw eu cynnal o achos eu hanifeiliaid.

8. Felly arhosodd Esau, hynny yw Edom, ym mynydd-dir Seir.

9. Dyma genedlaethau Esau, tad yr Edomiaid ym mynydd-dir Seir.

10. Dyma enwau meibion Esau: Eliffas fab Ada gwraig Esau, Reuel fab Basemath gwraig Esau.

Genesis 36