Genesis 35:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Felly rhoesant i Jacob yr holl dduwiau dieithr oedd yn eu meddiant a'r modrwyau oedd yn eu clustiau, a chuddiodd Jacob hwy dan y dderwen ger Sichem.

5. Fel yr oeddent yn teithio, daeth arswyd mawr ar y dinasoedd o amgylch, fel na fu iddynt ymlid meibion Jacob.

6. A daeth Jacob a'r holl bobl oedd gydag ef i Lus, hynny yw Bethel, yng ngwlad Canaan,

7. ac adeiladodd allor yno, ac enwi'r lle El-bethel, am mai yno yr ymddangosodd Duw iddo pan oedd yn ffoi rhag ei frawd.

8. A bu farw Debora, mamaeth Rebeca, a chladdwyd hi dan dderwen islaw Bethel; ac enwyd honno Alon-bacuth.

Genesis 35