Genesis 35:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. a gosododd Jacob golofn ar ei bedd; hon yw colofn bedd Rachel, sydd yno hyd heddiw.

21. Teithiodd Israel yn ei flaen, a gosod ei babell y tu draw i Migdal-eder.

22. Tra oedd Israel yn byw yn y wlad honno, aeth Reuben a gorwedd gyda Bilha gwraig ordderch ei dad; a chlywodd Israel am hyn.Yr oedd deuddeg o feibion gan Jacob.

23. Meibion Lea: Reuben cyntafanedig Jacob, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.

24. Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.

Genesis 35