Genesis 34:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. A daeth Hamor a'i fab Sichem at borth y ddinas a llefaru wrth wŷr y ddinas a dweud,

21. “Y mae'r gwŷr hyn yn gyfeillgar â ni; gadewch iddynt fyw yn y wlad a marchnata ynddi, oherwydd y mae'r wlad yn ddigon eang iddynt; cymerwn eu merched yn wragedd, a rhown ninnau ein merched iddynt hwythau.

22. Ond ar yr amod hwn yn unig y cytuna'r gwŷr i fyw gyda ni a bod yn un bobl: sef ein bod yn enwaedu pob gwryw yn ein plith, fel y maent hwy wedi eu henwaedu.

23. Oni fydd eu gwartheg a'u meddiannau a'u holl anifeiliaid yn eiddo i ni? Gadewch inni gytuno â hwy fel y gallant gyd-fyw â ni.”

Genesis 34