Genesis 33:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yna nesaodd y morynion a'u plant, ac ymgrymu;

7. nesaodd Lea hefyd a'i phlant, ac ymgrymu; ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.

8. Dywedodd Esau, “Beth a fwriedi gyda'r holl fintai hon a gyfarfûm?” Atebodd yntau, “Ennill ffafr yng ngolwg f'arglwydd.”

9. Ond dywedodd Esau, “Y mae gennyf ddigon, fy mrawd; cadw'r hyn sydd gennyt i ti dy hun.”

10. Yna dywedodd Jacob, “Na, os cefais ffafr yn d'olwg, cymer fy anrheg o'm llaw; y mae gweld dy wyneb fel gweld wyneb Duw, gan dy fod wedi fy nerbyn.

11. Cymer yn awr fy rhodd a ddygwyd i ti, oherwydd bu Duw yn raslon i mi, ac y mae gennyf ddigon.” Ac am ei fod yn erfyn arno, cymerodd yntau'r rhodd.

12. Yna dywedodd Esau, “Cychwynnwn ar ein taith, ac af finnau o'th flaen.”

Genesis 33