Genesis 33:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Cerddodd yntau o'u blaen ac ymgrymu i'r llawr seithwaith wrth nesáu at ei frawd.

4. Ond rhedodd Esau i'w gyfarfod, a'i gofleidio a rhoi ei freichiau am ei wddf a'i gusanu, ac wylodd y ddau.

5. Yna cododd Esau ei olwg a gweld y gwragedd a'r plant, a gofynnodd, “Pwy yw'r rhain sydd gyda thi?” Atebodd yntau, “Dyma'r plant y mae Duw o'i ffafr wedi eu rhoi i'th was.”

6. Yna nesaodd y morynion a'u plant, ac ymgrymu;

7. nesaodd Lea hefyd a'i phlant, ac ymgrymu; ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.

8. Dywedodd Esau, “Beth a fwriedi gyda'r holl fintai hon a gyfarfûm?” Atebodd yntau, “Ennill ffafr yng ngolwg f'arglwydd.”

Genesis 33